Save Job Back to Search Job Description Summary Similar JobsCyfle i ymuno ag adran gyfreithiol newydd mewn prifysgol flaenllawRôl gyda chydbwysedd bywyd-gwaith ac effaith ystyrlonAbout Our ClientYdych chi'n Gyfreithiwr neu'n Fargyfreithiwr sy'n chwilio am y cyfle i ymuno â thîm bach, prysur a chefnogol mewn sefydliad sydd ar flaen y gad o ran newid bywydau?Mae Prifysgol Caerdydd yn brifysgol Grŵp Russell sy'n darparu rhagoriaeth ym meysydd addysgu ac ymchwil, gan gynorthwyo myfyrwyr a chymdeithas i ffynnu. Mae ein strategaeth newydd - 'Gyda'n Gilydd, Gallwn Ni' - yn uchelgeisiol ynglŷn â'n heffaith a'n lle yng Nghymru a'r byd, ac mae ystod o ddatblygiadau cyffrous newydd ar y gweill, gan gynnwys Prifysgol Caerdydd Kazakhstan.Os ydych chi'n gyfreithiwr ar hyn o bryd sy'n mwynhau gweithio yn rhan o dîm mewnol deinamig ac yn meithrin perthnasoedd gwych â rhanddeiliaid, hoffem glywed gennych chi.Job DescriptionDyletswyddau Cyfreithiol Craidd:· Rhoi cyngor cyfreithiol o ansawdd uchel a fydd yn cael effaith ar draws y sefydliad, gan sicrhau cydymffurfiaeth â newidiadau cyfreithiol a rheoleiddiol.· Drafftio, adolygu, a thrafod ystod eang o ddogfennau cyfreithiol gan gynnwys contractau masnachol, cydweithrediadau academaidd, cytundebau ymgynghori, contractau adeiladu, cytundebau tenantiaeth/trwyddedau, a threfniadau contractwyr.· Cynghori ar faterion eiddo deallusol (e.e. hawlfraint, nodau masnach, enwau parthau), gan gynnwys canllawiau rhagarweiniol a chofrestriadau ffurfiol.· Cynorthwyo apeliadau a chwynion myfyrwyr o safbwynt cyfreithiol.· Arwain prosiectau cydymffurfiaeth gyfreithiol, rheoli timau prosiect, a pharatoi strategaethau i liniaru risgiau cyfreithiol.· Ymchwilio i faterion cyfreithiol cymhleth, paratoi adroddiadau argymhellion, a sicrhau cyfrinachedd a chyfreithlondeb.· Datblygu a gwella prosesau a gwasanaethau cyfreithiol ar draws y Brifysgol.Dyletswyddau Strategol a Chydweithredol:· Cynghori uwch-staff ar risgiau cyfreithiol a chyfrannu at ddatblygu polisïau.· Meithrin perthynas ag adrannau mewnol a chyrff cyfreithiol allanol.· Creu ac arwain gweithgorau i gyflawni amcanion sefydliadol.· Dylunio a chyflwyno hyfforddiant cyfreithiol sydd wedi'i deilwra i gynulleidfaoedd amrywiol.Datblygiad Proffesiynol a Dyletswyddau Cyffredinol:· Bod yn ymwybodol o newidiadau cyfreithiol ac yn y sector drwy Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus.· Cynnal cyfrinachedd a chadw at bolisïau'r Brifysgol.· Cyflawni dyletswyddau ychwanegol sy'n cyd-fynd â'r rôl yn ôl yr angen.The Successful ApplicantCymwysterau Hanfodol:· Cyfreithiwr neu fargyfreithiwr cymwys yng Nghymru a LloegrArbenigedd Cyfreithiol:· Profiad helaeth ar ôl cymhwyso ym meysydd Cyfraith Fasnachol, Ymgyfreitha Sifil, Cyflogaeth, neu Gyfraith Gyhoeddus/Rheoleiddio.· Sgiliau cyfreithiol cryf: drafftio, ymchwilio, negodi, eirio a chyfweld.· Dealltwriaeth gadarn o gyd-destunau rheoledig a chydymffurfiaeth gyfreithiol.· Cyfathrebu a Chydweithio:· Y gallu i ddylanwadu ar benderfyniadau strategol a meithrin perthnasoedd ar draws pob lefel.· Y gallu i gyfathrebu cysyniadau cyfreithiol cymhleth yn glir ac yn broffesiynol.· Ymrwymiad i wella gwasanaethau ac ymateb i adborth.· Y gallu i weithio ar y cyd a chyfrannu at ddatblygiad hirdymor drwy rwydweithio.Cynllunio a Datrys Problemau:· Y gallu i ddatrys problemau mewn ffyrdd creadigol ac ymarferol drwy ddefnyddio sgiliau ymchwil a dadansoddi cryf.· Dealltwriaeth gyfredol o ddatblygiadau cyfreithiol mewn disgyblaethau perthnasol.· Y gallu i reoli prosiectau ac arwain timau tymor byr.· Y gallu i ymdopi â llwythi gwaith heriol yn seiliedig ar ddyddiadau cau, ochr yn ochr â chynnal ffocws ar gleientiaid.Nodweddion Dymunol:· Profiad o reoli llinell, gan gynnwys datblygu staff a goruchwylio lles.· Profiad ym maes Addysg Uwch neu lywodraethu AU.· Gwybodaeth gyfreithiol eang, gan gynnwys Cyfraith Elusennau.· Parodrwydd i ddysgu Cymraeg (ysgrifenedig a llafar)What's on OfferGellir cynnig y swyddi penagored hyn ar sail gweithio cyfunol, gan gynnwys oriau cywasgedig neu ran-amser (o leiaf 0.8 CALl) yn amodol ar gytundeb. Felly, yn ogystal â threulio amser yn gweithio ar y campws ar gyfer cyfarfodydd y tîm neu Swyddfa Ysgrifennydd y Brifysgol neu faterion eraill yn ôl yr angen (tua dau ddiwrnod y mis, ond mae'n amrywio), cewch hefyd ddewis treulio peth amser yn gweithio o leoliad arall, e.e. gartref. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i gynnig yr hyblygrwydd hwn pan fo'r swydd ac anghenion y busnes yn caniatáu hynny, gan gynorthwyo'r cydbwysedd rhwng eich gwaith a'ch bywyd personol.Mae Prifysgol Caerdydd yn cynnig llawer o fuddion rhagorol, gan gynnwys 37 diwrnod o wyliau blynyddol (yn ogystal â gwyliau banc), pro-rata ar gyfer rhan amser, cynllun pensiwn lleol, gweithio cyfunol (sy'n golygu y gallech weithio gartref am beth o'ch amser, yn dibynnu ar anghenion busnes), cynllun beicio i'r gwaith a chynlluniau teithio eraill, cynyddiadau blynyddol i fyny'r raddfa gyflog, a mwy. Mae'n lle cyffrous a bywiog i weithio - mewn prifddinas amrywiol a bywiog - ac mae'n gefnogwr balch o'r Cyflog Byw.ContactStacey GrahamQuote job refJN-082025-6811574Phone number+44 118 933 7035Job summaryJob functionLegalSubsectorCommercialSectorPublic SectorLocationCardiffContract typePermanentConsultant nameStacey GrahamConsultant phone+44 118 933 7035Job referenceJN-082025-6811574